
Tîm twristiaeth Llywodraeth Cymru yw Croeso Cymru yn yr Adran Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth. Mae Croeso Cymru’n gyfrifol am hybu a datblygu twristiaeth yng Nghymru.
Mae Croeso Cymru yn gyfrifol am baratoi polisi twristiaeth, ac annog datblygiad a buddsoddiad yn y diwydiant twristiaeth. Mae hefyd yn gyfrifol am farchnata Cymru yn y DU a thramor. Amcan Croeso Cymru yw:
‘Cyfrannu cymaint â phosibl at ffyniant economaidd, cymdeithasol a diwylliannol Cymru’
Mae Croeso Cymru’n gallu darparu amrywiaeth o gefnogaeth, boed hynny'n gymorthdaliadau, graddio busnes, cyngor marchnata neu ymchwil.
Gweler y dolenni ar y dde am ragor o wybodaeth.
Safle Llywodraeth Cymru ar gyfer Twristiaeth
Rheoli Cyrchfannau Cymru
Safle Llywodraeth Cymru ar gyfer Gweithredwyr Teithio a Thwristiaeth
Safle Croeso Cymru ar gyfer Twristiaid ac Ymwelwyr i Gymru
Safle Llywodraeth Cymru sy’n hybu e-fusnes